Croeso i Nico Travel

Asiantaeth deithio annibynnol wedi’i leoli yng nghefn gwlad prydferth Gogledd Cymru! Rydym yn falch iawn ein bod ni’n gallu cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i’n cleientiaid. Rydym yn dîm bychan, proffesiynol a phrofiadol, sy’n golygu y byddwch yn derbyn gwasanaeth wedi’i deilwra yn arbennig ar eich cyfer. Mae gennym fynediad at amrywiaeth eang o wyliau a chynigion gan brif asiantaethau’r diwydiant, beth bynnag yw eich gwyliau dymunol, byddwn yn sicr yn gallu cynnig yr un pris, neu hyd yn oed gynnig pris gwell! Rydym wrth ein boddau’n sgwrsio â’n cwsmeriaid a dod i adnabod eu hoff a’u cas bethau er mwyn gallu cynnig gwyliau personol perffaith i chi. Boed yn becyn gwyliau, yn wyliau dinas neu’n antur Sgïo a Chwaraeon, rydym yn addo dod o hyd i’ch gwyliau delfrydol.

 

Asiantaeth Annibynnol

Cynigion sy’n cystadlu â’r cwmïau mawr gyda blaendaliadau rhad!

Gwasanaeth Cymraeg

Mae ein staff Cymraeg bob amser yn barod i’ch helpu

Gwasanaeth 5* i Gwsmeriaid

Darganfod mwy am brofiadau ein cleientiaid

Diogelwch Teithio

Rydym yn Asiantaeth Deithio wedi’i ddiogelu gan ATOL, felly mae eich gwyliau mewn dwylo diogel

Lleoliad Poblogaidd

Dechreuwch eich antur heddiw!

Archebwch eich taith nesaf